Vladimir Putin
Mae Vladimir Putin yn dweud ei bod hi’n “annheg ac yn anghyfiawn” i wahardd athletwyr o Rwsia rhag cystadlu yng Ngemau Olympaidd Rio, er bod y wlad yn cael ei hamau o ddefnyddio cyffuriau i drio ennill mantais dros gystadleuwyr eraill.
Ddoe, fe bleidleisiodd corff rheoli athletau’r byd, yr IAAF, yn unfrydol yn erbyn codi’r gwaharddiad.
“Wrth gwrs, mae hyn yn annheg ac yn anghyfiawn,” meddai Vladimir Putin wrth ymateb.
“Mae yna rai egwyddorion rhyngwladol yn ymwneud â’r gyfraith, ac un ohonyn nhw ydi bod angen personoli’r camwedd. Mae hynny’n golygu, os ydi rhywun o’ch teulu chi wedi torri’r gyfraith, ydi hi’n deg dal pawb o’r teulu, yn cynnwys chi, yn gyfrifol am y drosedd? Nid dyna sut mae pethau’n cael eu gwneud.
“Mae’r bobol sydd â dim cysylltiad â’r troseddau yn diodde’ oherwydd y rhai sydd wedi tramgwyddo,” meddai Vladimir Putin wedyn. Mae hynny’n mynd yn groes i ymddygiad gwâr.”
Fe gafodd tim athletwyr Rwsia ei wahardd yn dilyn cyhoeddi adroddiad gan asiantaeth ryngwladol gwrth-gyffuriau, WDA, yn dangos fod y tim wedi defnyddio cyffuriau yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.
Ond mae Mr Putin yn mynnu bod llywodraeth Rwsia yn gwneud ei gorau i dorri i lawr ar y defnydd o gyffuriau.