Bydd rownd derfynol cystadleuaeth pêl droed Gaeleg yn cael ei chynnal ym mhentre’ Frongoch heddiw, i nodi can mlynedd ers y bu carcharorion Gwyddeleg yno adeg Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon yn 1916.
Bydd y gêm yn cofio am y gêm derfynol a gafodd ei chynnal yn y gwersyll dros dro rhwng carcharorion yn 1926, rhwng Swydd Kerry a Swydd Louth.
Roedd sawl un o’r carcharorion ar y pryd yn chwaraewyr proffesiynol yn y gêm hynod o boblogaidd yn yr Iwerddon.
Ar fferm Rhyd-y-defaid, ger y pentre’, wrth y Bala, fydd y gêm yn cael ei chynnal, ac mae trefnwyr lleol wedi bod yn brysur yn clirio’r cae i’w gwneud yn addas ar gyfer yr achlysur.
Cysylltiad rhwng Frongoch a’r Gwyddelod
Syniad Alwyn Jones oedd gwahodd y gystadleuaeth i Frongoch, sy’n dweud bod y cysylltiad rhwng Iwerddon a’r ardal wedi cryfhau ers cofio’r can mlynedd eleni.
“Rydan ni wedi cael aml i ymwelydd (o’r Iwerddon) yn y mis diwethaf ‘ma. Dydd Sadwrn diwethaf (diwrnod swyddogol y cofio), roedd 400 i 500 o bobol yma,” meddai.
Roedd y gwersyll wedi cael ei ddefnyddio i gadw carcharorion o’r Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ond ar 11 Mehefin 1916, daeth yn wersyll i 1,800 o bobol oedd yn cael eu hamau o gymryd rhan yng Ngwrthryfel y Pasg yn Nulyn.
Mae rhai’n honni mai yn Frongoch y daeth nifer o syniadau ynglŷn ag Iwerddon Rydd i fod, ac fe aeth nifer o’r gwrthryfelwyr ati i ddysgu’r iaith Wyddeleg.
Disgynnydd yn y gêm
Mae disgwyl y bydd Tom Looney, disgynnydd i un o’r carcharorion, Dick Fitzgerald, oedd yn chwaraewr Gaeleg enwog iawn yn Iwerddon, yn y gêm.
Ffeinal Prydain o’r GAA (Gaelic Athletic Association), fydd heddiw, gyda thimau Swydd Hartford a Swydd Efrog yn mynd benben â’i gilydd.
Mae disgwyl i’r gêm ddechrau am tua 4 o’r gloch y prynhawn yma.