Mae Morgannwg wedi curo Swydd Gaint o 55 rhediad drwy ddull Duckworth-Lewis yn y T20 Blast yng Nghaerdydd, wrth i’r chwaraewr amryddawn o Lanelwy, David Lloyd daro 97 heb fod allan.
Cafodd Lloyd ei gefnogi gan Colin Ingram (60), wrth iddyn nhw adeiladu partneriaeth dyngedfennol o 132 am yr ail wiced i gyrraedd 175-4 yn eu 16 pelawd ar ôl i’r glaw gwtogi’r batiad.
Wrth i Swydd Gaint gwrso 176 am y fuddugoliaeth, ymateb digon siomedig ddaeth gan yr ymwelwyr.
Cipiodd Dale Steyn bedair wiced am 18, ac roedd tair wiced i Michael Hogan a dwy i Timm van der Gugten wrth i’r Saeson gael eu bowlio allan am 121.
Manylion
Unarddeg o belenni oedd yn bosib ar ddechrau’r noson cyn i’r dyfarnwyr Jeff Evans a Billy Taylor benderfynu y byddai’n rhaid cwtogi’r ornest i 16 o belawdau’r un. Roedd Morgannwg yn 10-0 ar ôl 1.5 o belawdau ar ôl cael eu gwahodd gan Swydd Gaint i fatio’n gyntaf.
Dychwelodd y chwaraewyr i’r cae am 7.45, a buan iawn y dychwelodd capten Morgannwg, Jacques Rudolph i’r cwtsh, wedi’i ddal gan Daniel Bell-Drummond wrth geisio tynnu Mitch Claydon drwy ochr y goes, a’r cyfanswm yn 12-1. Ond fe ddaeth Colin Ingram i’r llain a tharo 14 o rediadau cyn diwedd y belawd i symud y cyfanswm i 26-1 ar ôl dim ond pedair pelawd.
Tarodd Lloyd ac Ingram 48 o rediadau yn y tair pelawd a ddilynodd ac roedden nhw’n 86-1 ar ôl hanner eu pelawdau. Ar ôl pelawd ddinistriol oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith Fabian Cowdrey, roedd Morgannwg wedi carlamu i 106-1.
Yn fuan wedyn, cyrhaeddodd David Lloyd ei hanner canred am y tro cyntaf mewn gornest T20 i Forgannwg, a hynny oddi ar 26 o belenni, gan daro pum pedwar a thri chwech ar ei ffordd i’r garreg filltir. Daeth hanner canred i Colin Ingram yn fuan wedyn, oddi ar 21 o belenni, ac roedd e wedi taro chwe phedwar a thri chwech ar ei ffordd.
Daeth partneriaeth o 132 rhwng Lloyd ac Ingram i ben wrth i Ingram glatsio unwaith yn ormod a chael ei ddal gan Alex Blake oddi ar fowlio oddi ar James Tredwell am 60. Roedd ei fatiad yn cynnwys chwe phedwar a phedwar chwech, a hynny oddi ar 29 o belenni.
Doedd hi ddim yn hir cyn i’r ymwelwyr gipio’u trydedd wiced, Chris Cooke allan y tro hwn wrth ei tharo hi’n uchel i’r awyr ac i ddwylo James Tredwell oddi ar fowlio David Griffiths, a Morgannwg yn 162-3. Dilynodd Aneurin Donald yn dynn ar ei sodlau, wedi’i fowlio gan Claydon am 1, a Morgannwg yn 172-4.
Erbyn diwedd y batiad, roedd Morgannwg yn 175-4, a David Lloyd yn eithriadol o agos at daro’i ganred T20 cyntaf, yn 97 heb fod allan mewn batiad oedd yn cynnwys 10 pedwar a phedwar chwech oddi ar 46 o belenni.
Wrth gwrso nod o 176 am y fuddugoliaeth, cafodd yr ymwelwyr y dechrau gwaethaf posib, wrth golli Daniel Bell-Drummond yn y belawd gyntaf, wrth iddo gael ei ddal gan David Lloyd oddi ar fowlio Dale Steyn heb sgorio, a Swydd Gaint yn 1-1.
Cipiodd Steyn ei ail wiced yn ei ail belawd, wrth fowlio’r capten Sam Northeast am 11, a Swydd Gaint bellach wedi llithro i 17-2. Roedden nhw mewn dyfroedd dyfnion erbyn y pumed pelawd, wrth iddyn nhw golli Sam Billings am 1, wedi’i ddal gan Michael Hogan oddi ar fowlio Steyn am 1, a’r bowliwr cyflym o Dde Affrica’n cipio’i drydedd wiced.
Cynigiodd y batiwr agoriadol Joe Denly rywfaint o sefydlogrwydd i’r ymwelwyr wrth iddyn nhw gyrraedd 44-3 ar ôl chwe phelawd, ond roedd ganddyn nhw her sylweddol o’u blaenau yn y deg pelawd oedd yn weddill. I ddyfroedd dyfnach fyth yr aeth Swydd Gaint ar ôl colli Denly am 23, a hwnnw’n taro’r bêl yn syth i’r awyr oddi ar fowlio Michael Hogan ac i ddwylo Ingram.
Cipiodd Morgannwg eu pumed a’u chweched wiced yn yr unfed pelawd ar ddeg, wrth i Darren Stevens gael ei fowlio gan yr Iseldirwr Timm van der Gugten cyn i Fabian Cowdrey gael ei ddal â’i goes o flaen y wiced.
Alex Blake oedd y seithfed batiwr allan, wedi’i ddal gan Graham Wagg oddi ar fowlio Ingram am 30. Daeth rhywfaint o adloniant gan Matt Coles tua diwedd y batiad wrth i’r ymwelwyr daro 19 rhediad oddi ar Colin Ingram i gyrraedd 116-7 gyda dwy belawd yn weddill.
Daeth pedwaredd wiced i Dale Steyn yn y bymthegfed pelawd. James Tredwell oedd y batiwr allan, wrth iddo ddarganfod dwylo Timm van der Gugten, a Swydd Gaint yn llithro i 118-8 a’r bowliwr yn gorffen gyda ffigurau o 4-18.
Cwympodd nawfed wiced yr ymwelwyr oddi ar bedwaredd pelen y belawd olaf, wrth i Matt Coles gael ei ddal gan Ingram oddi ar fowlio Hogan, ac fe orffennodd yr ornest gyda dwy wiced mewn dwy belen i Hogan wrth iddo fowlio Mitch Claydon, a Swydd Gaint i gyd allan am 121.