Gorsaf Eurostar yn St Pancras
Bydd mwy o swyddogion yr heddlu i’w gweld yng ngorsafoedd Eurostar yn ystod Ewro 2016, mewn ymgais i sicrhau na fydd ymosodiad brawychol yn digwydd yn ystod y gystadleuaeth bêl-droed.
Daeth y cyhoeddiad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain, wrth i filoedd o gefnogwyr pêl droed baratoi i deithio i Ffrainc ar gyfer y bencampwriaeth, sy’n dechrau ddydd Gwener.
Bydd swyddogion yn rhai o brif orsafoedd Eurostar, gan gynnwys St Pancras International, Ebbsfleet International ac Ashford International, a bydd rhai swyddogion hefyd yn teithio ar y trenau gyda’r cefnogwyr.
“Rydym yn edrych ymlaen at Ewro 2016 ac am sicrhau bod cefnogwyr yn mynd i’r gemau ac yn dod ohonyn nhw’n ddiogel – p’un ai mai Cymru, Lloegr neu unrhyw wlad arall sy’n cymryd rhan,” meddai’r dirprwy prif gwnstabl, Alun Thomas.
“Ein swydd yw cadw pobol sy’n teithio yn ddiogel, a gall cefnogwyr ddisgwyl gweld ein swyddogion ar orsafoedd ac ar rai trenau i Ffrainc.”
Bydd yr heddlu trafnidiaeth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i deithwyr ar ei gyfrif Twitter, ar @BTPEuro2016, drwy gydol y bencampwriaeth.