Llun: Cwmni Silcox
Mae cwmni bysus o Sir Benfro, oedd yn gyfrifol am lawer o gludiant cyhoeddus y sir ac am hebrwng disgyblion i ysgolion gwahanol, wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr heddiw.

Mae disgwyl y bydd 92 o bobol yn colli eu swyddi ar ôl i Silcox Coaches, oedd yn 134 oed, fynd i’r wal, ond mae tua 50 ohonyn nhw wedi cael cynnig swyddi gan y cwmni bysus o Bontypridd, Edwards.

Roedd y cwmni yn gyrru 65 o fysus yn yr ardal, ac Edwards Coaches fydd y prif gwmni a fydd yn cymryd drosodd gan Silcox.

Bydd First Cymru a Taf Valley Coaches hefyd yn darparu rhai gwasanaethau bws yn ei le.

Mae rhagor o wybodaeth am unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth ar wefan Cyngor Sir Benfro.