Mae diffoddwyr tân yn galw ar bobol i ystyried oblygiadau tanau gwair yn dilyn tân ar fynydd yn Nwygyfylchi ger Penmaenmawr dros y penwythnos a roddodd tai cyfagos mewn perygl.

Dechreuodd tân ar fynydd Allt Wen nos Sadwrn ac mae criwiau tân yn dal i geisio cadw rheolaeth arno, ac yn ôl Gwasanaeth Tân y Gogledd, mae disgwyl iddyn nhw fod yno am gyfnod eto.

Mae trigolion yr ardal yn cael eu cynghori i gau eu ffenestri a’u drysau er mwyn atal mwg rhag mynd i mewn i’w tai.

Dydy achos y tân heb gael ei ddatgelu hyd yma, ond dywed y Gwasanaeth Tân bod y tywydd sych a phoeth diweddar wedi cynyddu’r perygl o danau mewn ardaloedd gwledig.

“Pwysau aruthrol”

“Yn ystod cyfnodau mwy cynnes, gall gwair, eithin a grug fynd yn sych iawn ac o ganlyniad, gall tanau ddatblygu’n gyflym iawn, yn enwedig mewn gwyntoedd, a gallai ledu’n gyflym a mynd y tu hwnt i reolaeth,” meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân.

“Mae’r (math hwn) o dân yn rhoi pwysau aruthrol ar ein hadnoddau, gyda diffoddwyr tân yn gorfod treulio amser hir i’w gael dan reolaeth.

“Yn aml iawn, mae’r mathau hyn o danau yn digwydd mewn ardaloedd sydd yn anodd iawn eu cyrraedd a lle nad oes llawer o gyflenwad dŵr.”

‘Cymryd gofal  wrth daflu sbwriel’

Galwodd ar bobol i “gymryd gofal mawr” pan fyddan nhw y tu allan, wrth “daflu sigarennau” a “thaflu barbeciws yn ddiogel”.

Fe wnaeth atgoffa perchnogion tir bod y cyfnod i losgi pethau mewn amgylchedd wedi’i reoli, wedi dod i ben bellach a bod angen trwydded i losgi pethau y tu allan i’r cyfnod hwn.

“Cofiwch – mae cynnau tanau yn drosedd ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i daclo digwyddiadau bwriadol – bydd y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu herlyn,” ychwanegodd.

Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am droseddau o’r fath ffonio Taclo’r Taclau’n anhysbys ar 0800 555 111.