David Cameron Llun: Tudalen Facebook David Cameron
Mae David Cameron a rhai o wleidyddion amlycaf Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion wedi galw ar ymgyrchwyr tros adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) i amlinellu eu cynlluniau tros ddyfodol economaidd Prydain pe bai’n gadael.

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi cyhuddo ymgyrchwyr Vote Leave o “wleidyddiaeth ffantasïol” am iddyn nhw wrthod cyhoeddi eu cynlluniau economaidd  i Brydain.

Daw’r alwad wedi i Boris Johnson, ymgyrchydd blaenllaw dros adael, rybuddio y gallai Prydain wynebu cynnydd yn y cyfraniad blynyddol i gyllidebau’r UE a £2.4 biliwn yn ychwanegol am orwariant Brwsel.

Ond, mae David Cameron wedi cyhuddo ymgyrch Vote Leave o “ymddwyn yn annemocrataidd ac yn ddiofal” am beidio â chyhoeddi eu cynlluniau economaidd.

Gwerth y bunt yn disgyn

Ychwanegodd y Prif Weinidog ei bod yn “annerbyniol eu bod yn parhau i osgoi cwestiynau.”

Dywedodd fod yr economi ar hyn o bryd yn arafu hefyd oherwydd ansicrwydd dros ddyfodol Prydain yn rhan o’r UE.

Yn ogystal, mae ffigurau diweddar yn dangos bod gwerth y bunt yn erbyn y ddoler wedi disgyn dros y tair wythnos diwethaf, a hynny wrth i bolau piniwn ddangos cynnydd o ran y gefnogaeth i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae pôl diweddar gan YouGov yn dangos bod 45% o bleidleiswyr yn ffafrio gadael o gymharu â 41% sy’n dewis aros yn rhan o’r Undeb.

‘Bygwth hawliau gweithwyr’

 

Mae’r gwleidyddion eraill sydd wedi galw ar yr ymgyrch dros adael i amlygu eu cynlluniau economaidd yn cynnwys Harriet Harman o’r Blaid Lafur, Tim Farron arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, ac arweinydd y Gwyrddion Natalie Bennett.

Rhybuddiodd Harriet Harman y gallai adael yr UE fygwth hawliau gweithwyr Prydain, o ran cyfnodau mamolaeth, tadolaeth a gwyliau.