Mae Heddlu Sussex wedi lansio ymchwiliad i geisio dod o hyd i ddyn 42 oed maen nhw’n credu fod ganddo gysylltiad â marwolaeth pensiynwyr a diflaniad ei wraig.

Cafwyd hyd i gorff Peter Stuart, 75 oed, mewn coedwig yn Weybread, Suffolk gyda nifer o anafiadau cyllell ar ei gorff.

Mae’r heddlu’n parhau i chwilio am ei wraig, Sylvia Stuart 69 oed, a doedd neb wedi gweld y pâr ers Mai 28.

Mae swyddogion yr heddlu’n ceisio dod o hyd i Ali Qazimaj, 42 oed, sydd wedi bod yn byw yn ardal Thurrock yn Essex, ac fe gafodd ei weld diwethaf ddydd Gwener.

Mae’r heddlu wedi dod o hyd i’w gar arian Citroen C3 yn ardal Dofer nos Sul.

Yn ôl y Ditectif Uwch Arolygydd, Simon Parkes: “Mae ein blaenoriaeth yn parhau i geisio lleoli Sylvia ac rydym yn parhau i gynnal chwiliadau yn Weybread ynghyd â gwneud ymchwiliadau pellach.”

Mae dyn 61 oed o Gaerlŷr wedi’i arestio ddydd Sul ac yn parhau yn y ddalfa. Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu Sussex ar 101.