Yn Llys y Goron Swindon, mae dyn o Abercwmboi yn Ne Cymru wedi’i ddedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar am yrru’n beryglus gan achosi marwolaeth tri o ddynion ar yr M4.

Cafodd Stephen Parry Jenkins ei ddedfrydu am achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ar yr M4 ger Chippenham, Wiltshire ym mis Mehefin 2014.

Bu farw James Stark, 37 oed, Steven Sheldon, 35 oed, a Martin Williams, 36 oed.

Mae Stephen Parry Jenkins hefyd wedi’i wahardd rhag gyrru am bedair blynedd a thri mis.