Richard Huckle, Llun: PA/Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol (NCA)
Yn yr Old Bailey yn Llundain, mae pedoffeil o Gaint wedi derbyn 22 dedfryd oes am gam-drin hyd at 200 o blant o Falaysia.

Bydd yn rhaid i  Richard Huckle, 30 oed, dreulio  isafswm o 25 mlynedd dan glo.

Fe wnaeth Huckle, oedd yn ffotograffydd llawrydd o Ashford yng Nghaint, gyfaddef i droseddau yn erbyn plant rhwng chwe mis oed a 12 mlwydd oed rhwng 2006 a 2014.

Fe ymwelodd â Malaysia yn ystod blwyddyn allan o ddysgu pan oedd yn 19 oed, gan gam-drin y plant gan ddefnyddio’i statws fel Athro Saesneg Cristnogol.

Cafodd ei arestio yn 2014 gan yr Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol (NCA), ac fe ddaethant o hyd i 20,000 o ddelweddau a fideos anweddus ar ei liniadur.

Cafodd 23 o blant o gymunedau Cristnogol tlawd ym mhrifddinas Malaysia, Kuala Lumpur, eu hadnabod drwy 71 o gyhuddiadau.

Llawlyfr a negeseuon ar-lein

Cafodd ei ddelweddau a’i fideos eu rhannu â phedoffiliaid ar draws y byd drwy’r wefan sydd bellach wedi cau – TLZ – ‘The Love Zone’.

Fe wnaeth Richard Huckle geisio creu busnes o’i droseddau hefyd drwy dorf-ariannu rhyddhau’r delweddau, ac roedd wrthi’n llunio llawlyfr pedoffiliaid adeg ei arestio.

Enw’r llawlyfr oedd ‘Paedophiles and Poverty: Child Lover Guide’, ac roedd yn cofnodi marciau i’w hun am gam-drin 191 o fechgyn a merched.

Mewn negeseuon ar-lein, fe glywodd y llys fod Richard Huckle wedi dweud fod “plant tlawd yn bendant yn haws i’w hudo na phlant dosbarth canol y Gorllewin.”

Clywodd y llys hefyd am neges yr oedd wedi’i hysgrifennu yn 2013 oedd yn amlygu ei gynlluniau i briodi un o’i ddioddefwyr er mwyn ei helpu i gam-drin mwy o blant.