Mae 14 o bobl, gan gynnwys chwech o blant, wedi cael eu lladd ar ôl i fws oedd yn cludo plant, athrawon a rhieni fod mewn gwrthdrawiad a char gan syrthio i gamlas, meddai swyddogion.
Cafodd 256 o bobl eraill hefyd eu hanafu yn y ddamwain a ddigwyddodd yn nhalaith Osmaniye. Roedd y bws yn dychwelyd o daith ysgol i barc cenedlaethol ac amgueddfa.
Yn ôl adroddiadau asiantaeth newydd Anadolu Agency roedd y bws wedi gwrthdaro a char, ac wedi colli rheolaeth gan wyro i gamlas.
Roedd y plant o ysgol yn nhalaith Hatay sydd ar y ffin a Syria ac i’r de o Osmaniye.
Mae’n debyg bod o leiaf un o’r teithwyr gafodd eu hanafu mewn cyflwr difrifol.