Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod dros hanner o gynghorau sir Cymru yn torri’r gyfraith drwy beidio â chynnig gwersi nofio Cymraeg i blant.
Fe wnaeth y mudiad ffonio cynghorau a chanolfannau hamdden ledled y wlad i ddarganfod faint ohonyn nhw sydd yn cynnig gwersi Cymraeg, a hynny yn dilyn cyflwyno Safonau’r Gymraeg.
Yn ôl y Safonau, mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar gynghorau sir i gynnig gwersi addysg cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae hyn yn cynnwys gwersi nofio hefyd.
Yn ôl ymchwil Cymdeithas yr Iaith, y canolfannau a chynghorau sy’n “gwrthod” cynnig y gwasanaeth yw,
- Canolfan Hamdden Penyrheol, Abertawe
- Cyngor Blaenau Gwent
- Canolfan Hamdden Y Barri
- Newport Live, Casnewydd
- Canolfan Hamdden Tywyn, Gwynedd
- Canolfannau hamdden Rhuthun a Dinbych
- Canolfan Hamdden Hwlffordd, Sir Benfro
- Canolfannau hamdden Llantrisant, Sobell yn Aberdâr, a Bronwydd yn y Porth
- Canolfannau hamdden yn Abergele a Llandudno
- Cyngor Torfaen
- Byd Dŵr, Wrecsam
Tywyn: ‘ewch i’r Bala’ am wersi Cymraeg
Roedd Canolfan Hamdden Tywyn yng Ngwynedd wedi dweud wrth Gymdeithas yr Iaith y bydd yn rhaid i bobol sydd am gael gwersi nofio Cymraeg “fynd i’r Bala”, er bod Cyngor Gwynedd yn dweud bod ei holl wersi yn cael eu cynnig yn Gymraeg.
Dywedodd ‘Caerdydd Actif’ fod rhaid cysylltu â’r fenter iaith leol er mwyn cael gwersi nofio Cymraeg.
Ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Sir Fynwy o weithredu’n groes i’r gyfraith drwy “orfodi” pobol i lenwi ffurflen cyn asesu’r galw am gyrsiau yn Gymraeg.
Galw am ymchwiliad
Mae’r mudiad bellach wedi gwneud cwyn swyddogol at Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, gan alw arni i gynnal ymchwiliad i’r sefyllfa.
“Diben yr hawliau newydd yw hybu defnydd y Gymraeg; prin fod enghraifft fwy diriaethol na gwersi nofio Cymraeg, yn enwedig y rhai ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’n hawl newydd y dylem allu ei ddathlu,” meddai cadeirydd grŵp hawl y mudiad, Manon Elin.
“Yn anffodus, rydym yn gorfod cyflwyno cwyn ffurfiol ar ran yr holl bobl sydd wedi cael eu hatal rhag defnyddio’r hawliau newydd hyn.
“Mae’n glir bod amrywiaeth fawr o ran sut mae cynghorau yn dehongli’r gyfraith newydd, ac yn y rhan fwyaf o achosion maent yn eu dehongli mewn ffordd sy’n ceisio osgoi gwella eu darpariaeth a chan roi baich ar yr unigolyn i ofyn am wasanaeth Cymraeg.
“Nodwn ymhellach bod dyletswydd hefyd ar gynghorau i sicrhau fod pobl yn ymwybodol o’u hawliau newydd. Mae’n amlwg o’r ymatebion rydym wedi eu derbyn, bod nifer o gynghorau, yn hytrach na chodi ymwybyddiaeth o’r hawliau, yn gwadu eu bod yn bodoli.”
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Rydym yn nodi datganiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a byddwn yn ystyried y cynnwys. Ni allwn wneud sylw pellach ar hyn o bryd.”