Mae gyrwyr sy’n mynd i Ffrainc ar gyfer Ewro 2016 wedi cael rhybudd ar ôl i ymchwil awgrymu bod arwyddion ffordd Ffrengig yn drysu gyrwyr o wledydd Prydain.

Yn ôl cwmni insurance4carhire, roedd 21% o’r bobol a gafodd eu holi yn credu bod arwyddion ar gyfer camerâu cyflymdra yn arwyddion ar gyfer mannau cyswllt wi-fi.

Roedd 57% hefyd wedi drysu rhwng arwyddion ar gyfer tollau a ‘stopiwch’.

Dywedodd 24% o’r 2,000 nad ydyn nhw’n gwybod beth yw’r terfyn cyflymdra ar gyfer y draffordd mewn tywydd sych.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: “Cyn i yrwyr fynd ar y ffyrdd, rydym yn eu hannog i dreulio ychydig o amser yn ymgyfarwyddo ag arwyddion ffyrdd yn Ffrainc – hyd yn oed os ydyn nhw wedi gyrru yn y wlad o’r blaen.

“Gall peidio gwybod rheolau’r ffordd fod yn gamgymeriad costus ac fe allai arwain at orfod gadael yn gynnar.”

Mae’r gystadleuaeth yn dechrau ar Fehefin 10.