Mae cyn-Brif Weinidog Prydain, John Major wedi lladd ar Boris Johnson a Michael Gove am fod yn “dwyllodrus” wrth iddyn nhw ymgyrchu tros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Major hefyd wedi eu cyhuddo o “gamarwain” y cyhoedd, gan ddweud na fyddai Boris Johnson yn cael cefnogaeth ei blaid pe bai e’n dod yn arweinydd yn y dyfodol.

Dywedodd Major wrth raglen Andrew Marr y BBC y byddai’r Gwasanaeth Iechyd, yn nwylo Johnson, Gove ac Iain Duncan Smith “mor ddiogel â bochdew anwes gyda pheithon llwglyd”.

Dywedodd fod yr hyn sydd wedi cael ei ddweud am adael yr Undeb Ewropeaidd “yn ei hanfod yn anonest ac mae’n anonest o ran cost Ewrop”.

Ychwanegodd: “Rwy’n grac ynghylch y ffordd y mae pobol Prydain yn cael eu camarwain, mae hyn lawer iawn pwysicach nag etholiad cyffredinol, mae hyn yn mynd i effeithio ar bobol, eu bywoliaeth, eu dyfodol, am amser hir i ddod ac os ydyn nhw’n cael ffeithiau gonest a syml ac yn penderfynu gadael, yna penderfyniad pobol Prydain yw hynny.

“Ond os ydyn nhw’n penderfynu gadael ar sail gwybodaeth anghywir yr ydym yn gwybod ei fod yn anghywir, yna rwy’n ystyried bod hynny’n bod yn dwyllodrus.”

Wfftio

Mae Boris Johnson wedi wfftio honiadau John Major gan ddweud ei fod yn awyddus i glywed y ffeithiau’n unig.

Doedd e ddim wedi gwneud sylw am yr adroddiadau bod yr ymosodiadau yn ei erbyn yn rhan o ymgais i’w orfodi allan o’r Blaid Geidwadol.