Carfan Cymru'n ymarfer ym Mro Morgannwg cyn eu taith i Sweden
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi dweud bod gweld cannoedd o gefnogwyr yn y maes awyr wrth i’r garfan adael am Sweden wedi gwneud iddo sylweddoli’r hyn y mae ei dîm ar fin ei gyflawni wrth chwarae yn Ewro 2016.
Mae’r garfan wedi teithio i Sweden am gêm gyfeillgar ddydd Sul ar drothwy eu hymddangosiad cyntaf mewn twrnament rhyngwladol mawr ers 1958, lle byddan nhw’n herio Slofacia, Lloegr a Rwsia.
Byddan nhw’n wynebu un o fawrion y byd pêl-droed, Zlatan Ibrahimovic.
Dywedodd Coleman: “Roedd y derbyniad yn y maes awyr yn anhygoel. Roedd plant a chôr yn canu’r anthem wrth i ni gerdded drwodd, roedd hyd yn oed mynd ar yr awyren yn anhygoel.
“Ry’n ni wedi gwylio’r holl wledydd eraill yn cael hyn, felly mae cael bod yn rhan ohono’n swreal.
“Roedd gadael Caerdydd gyda’r fath dderbyniad gawson ni’n gwneud i chi sylweddoli beth sydd o’n blaenau ni. Mae’n anodd esbonio ond fe wnaeth i chi deimlo ychydig yn sbesial.”
Balchder
Dywedodd Chris Coleman fod y garfan yn mynd i Ffrainc i gystadlu ac i ennill.
“Nid dim ond mwynhau’r foment sy’n bwysig i ni – beth yw diben hynny? Rhaid i ni wneud yn fawr ohono gan ein bod ni wedi gweithio’n galed i fod yn y sefyllfa yma.
“Byddai’r chwaraewyr gwych sydd wedi colli allan dros y blynyddoedd wedi rhoi popeth i gael bod yma. Ond rwy am i ni berfformio fel ry’n ni’n gwybod y gallwn ni a gwneud i’n gwlad deimlo’n falch.”
Gareth Bale
Wrth i’r garfan baratoi gyda gêm gyfeillgar yn Sweden ddydd Sul, mae Chris Coleman wedi cadarnhau na fydd Gareth Bale yn chwarae am fwy na 45 munud yn Stockholm.
Chwaraeodd Bale yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr am 120 munud yr wythnos diwethaf wrth i Real Madrid godi’r tlws.
Dywedodd Coleman: “Fe fydd Bale yn cymryd rhan, boed yn dechrau neu’n dod ymlaen fel eilydd.
“Mae e wedi cael tymor anodd, fe gollodd e rywfaint o amser oherwydd anaf ac mae e newydd chwarae am 120 munud yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr.
“Mae’n bosib y caiff e ryw hanner awr fel eilydd neu dechrau a chael 45. Ond dw i’n gwybod na fydd e’n cael 90 munud, does dim angen hynny arno fe.”
Mae Joe Allen, Joe Ledley a Hal Robson-Kanu i gyd wedi anafu, ond mae Coleman yn gobeithio y bydd y triawd yn holliach i wynebu Slofacia yn Bordeaux ymhen chwe niwrnod.