Daeth cadarnhad fod Jason Levien a Steve Kaplan bellach yng ngofal Clwb Pêl-droed Abertawe, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth yr Uwch Gynghrair.

Bydd y ddau ddyn busnes o’r Unol Daleithiau’n arwain consortiwm sydd wedi prynu 60% o gyfrannau’r clwb am yn agos i £100 miliwn, ond fe fydd y cadeirydd Huw Jenkins yn parhau i fod yn un o’r perchnogion.

Dydy cyfrannau Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr – sy’n berchen ar 21% o’r clwb – ddim yn cael eu heffeithio.

Bydd rhaid i Levien a Kaplan basio prawf perchnogion cyn cael sêl bendith yr Uwch Gynghrair.

Pwy yw’r perchnogion newydd?

Mae gan Levien a Kaplan brofiad helaeth o redeg clybiau chwaraeon yn yr Unol Daleithiau.

Levien yw perchennog DC United yng nghynghrair bêl-droed yr MLS, tra bod Kaplan yn ddirprwy gadeirydd tîm pêl fasged y Memphis Grizzlies.

Dywedodd y ddau eu bod yn awyddus i adeiladu ar waith Huw Jenkins a’r bwrdd cyfarwyddwyr ar ôl iddyn nhw lwyddo i achub y clwb rhag disgyn allan o’r Gynghrair Bêl-droed yn 2003.

Mae disgwyl i’r cytundeb gael ei gymeradwyo gan yr Uwch Gynghrair o fewn yr wythnosau nesaf.