"Hanner ei fywyd yn unig oedd paffio", medd teulu Muhammad Ali
Bydd angladd un o gewri’r byd chwaraeon, y paffiwr Muhammad Ali yn cael ei gynnal yn Louisville yn nhalaith Kentucky ddydd Gwener.

Daeth cadarnhad gan ei frawd Rahman ei fod wedi marw o sioc septig o ganlyniad i “achosion naturiol amhenodol” yn yr ysbyty yn Phoenix yn Arizona.

Roedd wedi bod yn yr ysbyty ers dydd Llun yn dioddef o broblemau resbiradol.

Mae baneri wedi cael eu gostwng yn Louisville er cof amdano.

Dywedodd ei frawd Rahman wrth y BBC fod Muhammad Ali yn “addfwyn” ac yn “berson enwoca’r byd”, a’i fod yn dymuno ei gofio fel “dyngarwr a dyn cariadus, caredig, addfwyn, da”.

Teyrngedau

Mae teyrngedau’n parhau i gael eu rhoi i’r dyn a gafodd ei enwi’n Bersonoliaeth Chwaraeon yr Ugeinfed Ganrif.

Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama fod Muhammad Ali “wedi ysgwyd y byd ac mae’r byd yn well o’r herwydd”.

Dywedodd Obama fod ganddo fenyg y paffiwr yn y Tŷ Gwyn.

Dywedodd un o’i gyfoedion a’i wrthwynebydd yn y Rumble in the Jungle, George Foreman: “Roedden ni fel un boi – mae rhan ohonof wedi mynd.”

Foreman yw’r olaf o blith cenhedlaeth o baffwyr pwysau trwm oedd yn cynnwys Ali, Joe Frazier a Ken Norton.

Ychwanegodd Foreman: “Bob tro mae un yn mynd, ry’ch chi’n teimlo fel pe baech chi wedi colli darn, a Muhammad Ali oedd y darn mwyaf ohonyn nhw i gyd.”

Bydd yr orymdaith angladdol yn mynd trwy strydoedd Louisville a heibio Canolfan Muhammad Ali, ar hyd Muhammad Ali Boulevard ac yn gorffen ym mynwent Cave Hill, lle bydd gwasanaeth preifat i’r teulu.

Bydd gwasanaeth coffa aml-ffydd yn cael ei gynnal yn Louisville ddydd Gwener ac yn cael ei ddarlledu ar y we, ac fe fydd cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau Bill Clinton, yr actor Billy Crystal a’r darlledwr Bryant Gumbel yn rhoi teyrngedau.

Dywedodd teulu Muhammad Ali mai “hanner ei fywyd yn unig” oedd paffio, a bod yr hanner arall wedi’i neilltuo er mwyn “rhannu neges pobol a chynhwysiant gyda’r byd”.

Mae’n gadael gwraig Lonnie a naw o blant.

Fe fu’n dioddef o glefyd Parkinson ers tri degawd.