Cafodd Owen Williams anaf sylweddol i'w gefn yn Singapore
Mae taith feics sy’n codi arian ar gyfer y cyn-chwaraewr rygbi Owen Williams ar ei ffordd i Amsterdam o Gaerdydd.
Mae mwy na 30 o bobol yn cymryd rhan yn y daith 500 milltir a mwy i brifddinas yr Iseldiroedd.
Gadawodd y criw Barc yr Arfau fore Sul ac ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan mae prif weithredwr y Gleision Richard Holland, Huw Williams, tad Owen ac is-hyfforddwr y Gleision Paul John.
Mae cymal cynta’r daith yn gorffen yn Swindon, ac fe fydd y rhai sy’n cymryd rhan yn teithio hyd at 85 milltir y dydd.
Cafodd ymgyrch #staystrongforows ei sefydlu ar ôl i gyn-ganolwr y Gleision a Chymru gael anaf sylweddol i’w gefn yn Singapore ddwy flynedd yn ôl.
Dywedodd prif weithredwr y Gleision, Richard Holland: “Mae’n wych o’r diwedd cael mynd i’r cyfrwy ar gyfer taith arall o Gaerdydd i gefnogi Ows.
“Gwnaeth nifer ohonon ni seiclo i Baris y llynedd a neidio at y cyfle i gymryd rhan mewn un arall at achos sydd mor agos at ein calonnau ni.”
Bydd yr arian sy’n cael ei godi’n mynd at ddatblygu’r tŷ yn Aberdâr sydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer anghenion Owen.
Mae modd dilyn y daith ar wefan Justgiving wefan Justgiving.
Y cymalau’n llawn:
Dydd Sul – Caerdydd i Swindon
Dydd Llun – Swindon i Welwyn Garden City
Dydd Mawrth – Welwyn Garden City i Harwich
Dydd Mercher – Hook of Holland i Amsterdam