Mae beth bynnag wyth o bobol wedi’u cludo i’r ysbyty wedi i fellt daro gwyl yng ngorllewin yr Almaen am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae heddlu lleol wedi cadarnhau bod un dyn wedi derbyn triniaeth yn y fan a’r lle yng ngwyl ‘Rock am Ring’ ger Mendig, tua 62 milltir i’r gorllewin o ddinas Frankfurt.

Yn ol adroddiadau, roedd storm o fellt wedi hel uwchben safle’r wyl toc wedi 8yh nos Wener. Roedd trefnwyr wedi rhybuddio ymwelwyr i geisio lloches yn ystod y storm.

Y llynedd, fe gafodd 33 o bobol eu hanafu pan gafod safle’r wyl ei daro ddwywaith gan fellt.

Mae degau o filoedd o bobol yn mynd i’r wyl bob blwyddyn. Roedd disgwyl i’r band o America, Tenacious D, chwarae yno neithiwr, a’r Red Hot Chili Peppers sydd ar y bil heddiw.