Mae teyrngedau’n cael eu rhoi heddiw i’r bocsiwr, Muhammad Ali, sydd wedi marw yn 74 oed.

Mae cyn-bencampwr pwysau trwm y byd, Evander Holyfield, wedi dweud ei fod yn “falch o fod wedi cael nabod” Muhammad Ali.

“I focsiwr gymryd arno’i hun i ddweud ‘Fi yw’r gorau’, mae’n rhoi ei hun mewn safle lle mae pobol yn gallu bod yn feirniadol iaw,” meddai. “Ond dyna wnaeth Ali. Ac mae iddo ddod yn bencampwr pwysau trwm y byd dair gwaith yn anhygoel. Bryd hynny, roedd pobol yn gofyn, ‘pwy all wneud yn well na hyn?’

“Mae’n rhaid i chi fod ag angerdd ac awydd cry’ i fynd ymlaen wedi hynny,” meddai Evander Holyfield wedyn, “ac roedd y ddau beth hwnnw gan Ali.”

Roedd Muhammad Ali yn un o gymeriadau chwaraeon mwya’ adnabyddus y byd, a bu farw neithiwr mewn ysbyty yn ninas Phoenix, Arizona. Roedd wedi cael ei gludo yno ddydd Iau, yn diodde’ o afiechyd ar yr ysgyfaint. Roedd wedi bod yn diodde’ â chlefyd Parkinson ers blynyddoedd.

Mae datganiad gan y teulu yn dweud y bydd angladd y cyn-focsiwr yn cael ei gynnal yn nhre’ Louisville, Kentucky.