Mae Morgannwg wedi curo Swydd Hampshire o bum wiced yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast yng Nghaerdydd.

Seren yr ornest oedd Aneurin Donald, wrth iddo sgorio 55 oddi ar 27 o belenni, gan daro wyth pedwar a dau chwech.

Roedd cyfraniadau hefyd gan Colin Ingram (43) a’r bowlwyr Michael Hogan (4-28), Dale Steyn (3-22) a Dean Cosker (2-24).

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod Morgannwg bellach wedi ennill dwy a cholli un o blith eu tair gêm hyd yn hyn.

Crynodeb

Dechreuodd Swydd Hampshire yn bositif ar ôl cael eu gwahodd i fatio’n gyntaf gan Forgannwg, wrth i James Vince a Michael Carberry eu harwain i 26-0 oddi ar dair pelawd. Ond Michael Hogan, oedd yn ddigon tawel yn erbyn Swydd Essex nos Fercher, gafodd y wiced gyntaf wrth i Carberry ei tharo hi i’r awyr ac i ddwylo diogel Dean Cosker.

Dim ond 11 o rediadau ychwanegodd Vince a Jimmy Adams cyn i Vince gael ei fowlio gan iorcer cyflym Michael Hogan ym mhelawd ola’r cyfnod clatsio, a’r ymwelwyr wedi cyrraedd 48-2 erbyn diwedd y chwe phelawd.

Belawd yn ddiweddarach, collodd yr ymwelwyr eu trydedd wiced wrth i Adams gael ei ddal gan Graham Wagg oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith, Dean Cosker, a’r cyfanswm bellach wedi cyrraedd 51-3.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Swydd Hampshire cyn diwedd yr wythfed pelawd, wrth i Sean Ervine ei tharo hi’n ysgafn i’r awyr ac yn syth i’r capten Jacques Rudolph ar ochr y goes, a’r cyfanswm yn 58-4.

Cafodd y batiad ei sefydlogi ryw ychydig gan bartneriaeth Adam Wheater a Liam Dawson wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 93 cyn i Wheater gael ei stympio gan Chris Cooke wrth gamu i lawr y llain oddi ar fowlio Dean Cosker.

A gyda hynny daeth un o sêr y byd T20, Shahid Afridi i’r llain. Ac roedd e’n sicr yn barod i ddiddanu wrth i ergyd ar ôl ergyd lanio dros y ffin. Ond y pen arall, fe gwympodd wiced Liam Dawson wrth i Dale Steyn ei ddal ar ymyl y cylch ar ochr y goes oddi ar fowlio Hogan, a’r ymwelwyr yn 121-6.

Yn dilyn ei ddaliad, fe ddaeth awr fawr Steyn wrth iddo gipio’i wiced gyntaf i Forgannwg, wrth i’r wicedwr Chris Cooke ddal Gareth Berg am 1, a’r ymwelwyr yn 126-7 wrth i gyn-chwaraewr amryddawn Morgannwg, Darren Sammy ddod i’r llain.

Ond buan y collodd ‘Boom Boom’ Afridi ei wiced ar ôl y clatsio, ac fe sgoriodd 32 oddi ar 20 o belenni yn y pen draw, gan daro tri phedwar a dau chwech.

Aeth Swydd Hampshire o 136-8 i 140-9 wrth i Gareth Andrew gael ei ddal gan Cooke oddi ar fowlio Steyn am 1.

Tino Best oedd y batiwr olaf allan, wedi i Steyn ddarganfod ei goes o flaen y wiced, a’r ymwelwyr i gyd allan am 141, a’r bowliwr o Dde Affrica’n gorffen gyda ffigurau o 3-22.

Collodd Morgannwg eu wiced gyntaf yn yr ail belawd wrth gwrso 142, wrth i’r capten Jacques Rudolph siomi gyda’r bat unwaith eto, wedi’i ddal gan James Vince oddi ar fowlio Gareth Andrew am 1, a’r Cymry’n 5-1.

Daeth ail wiced i’r ymwelwyr cyn diwedd y drydedd pelawd, wrth i Gareth Berg ddarganfod coes David Lloyd o flaen y wiced, a’r Cymry’n llithro i 9-2./

Wrth i Aneurin Donald a Colin Ingram ddod at ei gilydd, fe ddaeth achubiaeth i Forgannwg, wrth i Donald daro chwech a thri phedwar oddi ar Darren Sammy yn y pumed pelawd, a’r Cymry’n 49-2.

63-2 oedd cyfanswm Morgannwg oddi ar y cyfnod clatsio, ac roedden nhw bymtheg rhediad ar y blaen o gymharu’r ddau gyfnod clatsio.

Cyrhaeddodd Morgannwg 103-3 cyn i Aneurin Donald gael ei fowlio yn yr unfed belawd ar ddeg gan Liam Dawson. Sgoriodd Donald 55 oddi ar 27 o belenni – ei drydydd hanner canred mewn tair gêm – mewn batiad oedd yn cynnwys wyth pedwar a dau chwech.

Erbyn i Chris Cooke ymuno ag Ingram, roedd y canlyniad yn edrych yn anochel ar ôl i Forgannwg sgorio 94 mewn 8.3 o belawdau.

Ingram oedd y batiwr nesaf allan, a hynny am 43, wedi’i ddal gan Gareth Andrew ar ymyl y cylch oddi ar fowlio Dawson, a Morgannwg yn 108-4.

Collodd Morgannwg eu pumed wiced yn y pymthegfed pelawd, wrth i Graham Wagg gael ei fowlio gan Shahid Afridi, a’r Cymry wedi cyrraedd 115-5 gyda phum pelawd yn weddill.

Wrth i Chris Cooke a Craig Meschede ddod at ei gilydd, doedd dim brys mawr am rediadau ond fe gyrhaeddon nhw’r nod gyda 3.5 o belawdau’n weddill i sicrhau’r fuddugoliaeth.