Nid dyma'r tro cyntaf i Merkel a Hollande ddod at ei gilydd mewn arwydd o undod
Mae Arlywydd Ffrainc Francois Hollande a Changhellor yr Almaen Angela Merkel wedi bod mewn digwyddiad i nodi canmlwyddiant brwydr Verdun, brwydr hwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd y frwydr ei chynnal rhwng mis Chwefror a mis Rhagfyr 1916 a bu farw 163,000 o Ffrancwyr a 143,000 o Almaenwyr.

Ni chafodd pentrefi a gafodd eu dinistrio yn y frwydr eu hail-godi ac mae’r ardal yn rhy beryglus o hyd i godi tai ac i ffermio gan fod siel yn dal ar y safle.

Mae holl oroeswyr y frwydr bellach wedi marw, felly ffocws y digwyddiad ddydd Sul oedd addysgu pobol ifanc am erchylltra a chanlyniadau rhyfeloedd.

Dywedodd Francois Hollande fod Verdun yn “brifddinas heddwch” a’i bod yn fan sy’n gallu meithrin cyfeillgarwch rhwng Ffrainc a’r Almaen.

Dywedodd Angela Merkel fod y digwyddiad yn dangos undod Ewrop.