Mae UKIP wedi cael eu beirniadu am ddefnyddio’r gerddoriaeth allan o’r ffilm ‘The Great Escape’ ar fws yn ystod ymgyrch tros adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Vote Leave ar daith o amgylch gwledydd Prydain ar drothwy’r refferendwm ar Fehefin 23.
Yn ôl papur newydd yr Observer, dywedodd meibion y cyfansoddwr Elmer Bernstein na fyddai eu tad wedi rhoi ei ganiatâd i’r gân gael ei defnyddio ar gyfer yr ymgyrch.
Mae Peter a Greg Bernstein wedi cyhuddo’r blaid o “gynhwynoliaeth a rhagfarn lled eglur”.
“Mae’n siwr y byddai’n dweud bod ‘The Great Escape’ yn dathlu’r rheiny a achubodd Ewrop o drefn ofnadwy o hiliol, cynhwynolaidd a threisgar”.
Ychwanegon nhw nad oedd eu tad yn caniatâu defnyddio ei gerddoriaeth at ddibenion gwleidyddol, a’i bod yn perthyn yn hytrach i “fyd adloniant lle’r oedd ei gwreiddiau”.
Sony ATV sy’n berchen ar hawliau’r gân erbyn hyn a dydy Vote Leave ddim wedi cadarnhau a oedd ganddyn nhw drwydded i gael ei defnyddio’n gyhoeddus.