Mae dirprwy arweinydd plaid wleidyddol asgell dde’r Almaen, Alternative für Deutschland wedi cael ei feirniadu am sarhau’r pêl-droediwr rhyngwladol Jerome Boateng.
Mae teulu Boateng yn hanu o Ghana, ac fe ddywedodd Alexander Gauland wrth bapur newydd y Frankfurter Allgemeine Sonntagszeitung na fyddai llawer o bobol yn “dymuno ei gael yn gymydog”.
Mae Boateng, a gafodd ei eni ym München ac sy’n chwarae i Bayern München, wedi cynrychioli’r Almaen 57 o weithiau ac roedd yn aelod blaenllaw o’r tîm a gododd dlws Cwpan y Byd yn 2014.
Bydd Boateng hefyd yn cynrychioli ei wlad yn Ewro 2016.
Mae Gweinidog Cyfiawnder yr Almaen, Heiko Maas wedi dweud bod y sylw gan Gauland yn “annerbyniol”, gan ychwanegu ar ei dudalen Twitter fod “unrhyw un sy’n siarad fel hyn yn ei ddatgelu ei hun, ac nid yn unig fel cymydog gwael”.
Mae poblogrwydd yr AfD wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf wrth i filoedd o ffoaduriaid gyrraedd yr Almaen.
Mae Gauland yn honni nad yw e wedi sarhau Boateng, ac fe ddywedodd arweinydd y blaid, Frauke Petry wrth bapur newydd y Bild nad yw Gauland yn cofio a wnaeth e sylw neu beidio.
Ond ymddiheurodd wrth Boateng am greu’r argraff ei fod e wedi cael ei sarhau.
Mae Is-Ganghellor yr Almaen, Sigmar Gabriel wedi galw’r AfD yn “wrth-Almaenig”.