Roedd tri o blant wedi’u hanafu ym Mharis ddydd Sadwrn ar ôl cael eu taro gan fellten yn ystod parti pen-blwydd mewn parc.

Ac fe gafodd tri o bobol eraill eu hanafu’n ddifrifol mewn digwyddiad tebyg yn ystod gêm bêl-droed yn yr Almaen.

Ffrainc

Roedd y criw ym Mharis yn cysgodi o dan goeden yn Parc Monceau pan gawson nhw eu taro.

Roedd diffoddwr tân yn yr ardal ar y pryd, ac fe aeth i gynorthwyo’r criw wrth i naw o bobol orwedd yn anymwybodol ar lawr cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd.

Cafodd chwech o bobol eu hanafu’n ddifrifol, gan gynnwys tri o blant, ac mae bywyd un person yn y fantol.

Mae banc cyfagos bellach yn cael ei ddefnyddio fel canolfan i drin pobol sydd wedi cael eu hanafu ac mae rhai bellach wedi cael eu cludo i’r ysbyty.

Yr Almaen

Yn y cyfamser, mae heddlu’r Almaen yn dweud bod 35 o bobol yn yr ysbyty ar ôl i fellten daro parc yn Hoppstadten lle’r oedd plant yn chwarae pêl-droed.

Roedd 30 o blant rhwng naw ac 11 oed ymhlith y 35.