Mae un o enwau amlycaf yr ymgyrch tros adael yr Undeb Ewropeaidd wedi awgrymu bod dyfodol Prif Weinidog Prydain, David Cameron yn y fantol os na fydd e’n sicrhau buddugoliaeth yn y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Michael Gove, sy’n ymgyrchu o blaid Brexit, fe allai dyfodol Cameron fel Prif Weinidog Prydain fod yn y fantol pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y gallai Cameron golli ei swydd oni bai ei fod yn gallu profi ei ddamcaniaethau “apocalyptaidd”.

Ond nid dim ond Gove sydd wedi beirniadu Cameron.

Mae cyn-Faer Llundain, Boris Johnson wedi dweud bod Cameron yn colli hygrededd ymhlith y cyhoedd, tra bod y Gweinidog Cyflogaeth Priti Patel wedi beirniadu arweinwyr yr ymgyrch o blaid aros o fyw bywydau “moethus” ac o beidio â gofidio am ofidion pobol eraill am fewnfudwyr.

Ar wefan y Telegraph, dywedodd Patel bod agwedd ymgyrchwyr tros aros yn Ewrop yn “gywilyddus”.

Yn y cyfamser, mae mwy na 600 o economegwyr wedi cytuno â barn Cameron y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn niweidio economi Prydain.

Dywedodd mwy nag 80% mewn arolwg gan Ipsos Mori y câi Brexit effaith negyddol ar incwm, tra bod 61% o’r farn y byddai lefelau diweithdra’n codi.