Roedd dynes o wledydd Prydain fu farw yn dilyn damwain cwch cyflym yng Ngwlad Thai ddydd Iau ar ei mis mêl, yn ôl adroddiadau.
Bu farw Monica O’Connor, 28, ac o leiaf ddau o bobol eraill pan suddodd eu cwch o dan don anferth oddi ar ynys Koh Samui.
Mae’r chwilio’n parhau am Jason Parnell, 46, un arall sy’n dod o wledydd Prydain, oedd yn dathlu pen-blwydd ei briodas gyda’i wraig Puja.
Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Koh Samui na fydden nhw’n rhoi’r gorau i chwilio am y bobol sydd ar goll.
Roedd 32 o deithwyr a phedwar aelod o staff ar fwrdd y cwch.
Mae lle i gredu bod dyn a dynes o’r Almaen a dynes o Hong Kong ymhlith y rhai fu farw.
Arestio’r capten
Mae capten y cwch, Sanan Seekakiaw yn y ddalfa ar ôl y digwyddiad ac mae’n wynebu cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy ddiffyg gofal ac mae’n wynebu cyfnod o ddeng mlynedd yn y carchar.
Ond mae’n honni bod nifer o bobol wedi tynnu eu cyfarpar diogelwch yn ystod y daith.
Mae’r Swyddfa Dramor yn cynnig cymorth conswlaidd i’r ddau deulu o wledydd Prydain sydd wedi’u heffeithio.