Bale yn llwyddiannus â chic o'r smotyn
Roedd gan Gareth Bale ran bwysig i’w chwarae ym muddugoliaeth Real Madrid nos Sadwrn wrth iddyn nhw drechu eu cymdogion Atletico Madrid o’r smotyn yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn y San Siro ym Milan.
Gwnaeth Bale sefydlu gôl gynta’i dîm wrth iddo basio i Sergio Ramos ar ôl chwarter awr i roi Real ar y blaen, ac fe sgoriodd ei gic o’r smotyn ar ddiwedd y noson.
Tarodd Atletico yn ôl ddeng munud cyn diwedd y gêm drwy Yannick Carrasco i sicrhau bod yr ornest yn mynd i amser ychwanegol.
Ar ôl i’r naill dîm na’r llall lwyddo i sgorio’r gôl fuddugol, aeth hi i giciau o’r smotyn, a Cristiano Ronaldo yn sgorio’r gic fuddugol wrth i Real ennill o 5-3 i godi’r gwpan am yr unfed tro ar ddeg yn eu hanes.
Cafodd perfformiad Bale ei ganmol yn helaeth gan yr arbenigwyr, ac roedd yn fygythiad cyson i’r gwrthwynebwyr drwy gydol yr ornest.
Bu bron i’w gic rydd ddarganfod Casemiro i roi mantais gynnar i Real ac fe gafodd un arall o’i ergydion ei chlirio oddi ar linell y gôl. Sgoriodd y Cymro o’r smotyn wrth i’w dîm ennill yn y pen draw o 5-3.
Ond yn bwysicach, efallai, i dîm Cymru ar drothwy Ewro 2016 yw y daeth Bale drwyddi heb anaf.