Warren Gatland (llun: Gareth Fuller/PA)
Does dim perygl i chwaraewyr Cymru beidio â chymryd y gêm yn erbyn Lloegr o ddifrif yfory, yn ôl y prif hyfforddwr Warren Gatland.
Mae hyn er gwaethaf y ffaith na fydd hi’n gêm agos mor dyngedfennol â’r ddwy arall rhwng y ddwy wlad yn Twickenham y tymor yma – y naill ar gyfer Cwpan y Byd a’r llall ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
“Mae arnon ni eisiau mynd i Twickenham a chwarae’n dda, oherwydd does dim modd tanbrisio pa mor bwysig yw pob gêm rhwng Cymru a Lloegr,” meddai.
“Dros y blynyddoedd, ychydig iawn sydd rhyngon ni o ran gemau a enillwyd ac a gollwyd.
“Maen nhw un neu ddwy o enillion o’n blaenau ni, ac mi fyddai’n braf cau’r bwlch o flaen yr hyn a ddylai fod yn stadiwm bron yn llawn ac awyrgylch gwych.”
Er hyn, mae prif sylw’r ddwy wlad yfory yn debygol o fod am fod ar eu teithiau i hemisffer y de, wrth i Gymru edrych ymlaen at eu taith i Seland Newydd, a Lloegr baratoi ar gyfer herio’r Awstraliaid yn Brisbane, Melbourne a Sydney.
Gêm brawf galed
Mae gêm gyntaf Cymru yn erbyn y Crysau Duon yn Auckland ar 11 Mehefin, ac mae Gatland yn rhybuddio y bydd yn gêm galed.
“Mae timau hemisffer y de yn dod allan o gystadlaethau lle maen nhw wedi caledu ac yn barod am y Prawf cyntaf, ac rydyn ni wedi dangos yn y gorffennol ein bod ni’n gwella wrth fynd ymlaen,” meddai.
“Dyna pam roedd arnon ni eisiau’r gêm yma yn erbyn Lloegr, ac ychydig mwy o amser gyda’n gilydd cyn y Prawf cyntaf.
Agwedd
“Mae’n rhaid inni roi rhywbeth yn iawn ddydd Sul, nid o ran perfformiad, ond o ran agwedd.
“Mae’n rhaid inni fod yn iawn yn feddyliol. Wrth drafod hyn gyda rheolwyr a chwaraewyr rydym o’r farn na wnaethon ni ddod allan o’r bws yn y 40 munud cyntaf yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad.
“Fe wnaethon ni siarad am hynny hanner amser a chywiro pethau yn yr ail hanner. Mae hynny’n digwydd weithiau mewn chwaraeon. Rydym wedi cydnabod a derbyn hynny. Dyna’r cam cyntaf.
Hyder
“Yr ail gam fydd mynd i Seland Newydd gyda rhywfaint o hyder ein bod ni’n ddigon da ar ein diwrnod i guro’r tîm gorau yn y byd.
“Mae hyn am fod yn her anferth oherwydd, maen nhw wedi bod yn anhygoel.
“Fe welsoch chi yng Nghwpan y Byd faint o brofiad oedd ganddyn nhw yn y tîm ac nad oedd byth unrhyw banig.
“Rhaid ichi fod yn y gêm, a gobeithio y bydd profiad ein chwaraewyr ni sydd wedi bod o gwmpas ers amser maith ac wedi cael llwyddiant gyda’r Llewod yn Awstralia, yn eu galluogi nhw i wneud yr hyn sydd ei angen. Rhaid inni fynd allan a chwarae’n dda.”