Fe fydd Gareth Bale yn gobeithio creu hanes gyda Real Madrid nos fory wrth ennill Cynghrair y Pencampwyr am yr ail waith mewn tair blynedd.
Bale sgoriodd y gôl fuddugol wrth i Real ennill y gystadleuaeth ddwy flynedd yn ôl yn erbyn Atletico Madrid, a’r un gwrthwynebwyr fydd yn eu hwynebu yn y San Siro ym Milan nos Sadwrn.
Ac mae cyn-seren Real Madrid Ivan Campo wedi dweud y gallai ennill Cwpan Ewrop am yr ail waith fod yn sbardun i’r Cymro brofi ryw ddydd mai fo ydi’r pêl-droediwr gorau yn y byd.
Ond mae amddiffynnwr Cymru James Collins wedi cyfaddef y bydd o a gweddill tîm Cymru’n gwylio’r ffeinal ‘o du ôl i’r clustogau’, rhag ofn i seren y tîm cenedlaethol gael anaf bythefnos yn unig cyn Ewro 2016.
Gwneud gwahaniaeth
Bydd y ddau dîm o Madrid yn wynebu’i gilydd yn y ddarbi ar y llwyfan mwyaf unwaith eto’r penwythnos hwn, gyda Bale yn gobeithio sgorio’r gôl dyngedfennol fel ag y gwnaeth o yn 2014.
A does dim rheswm, yn ôl Ivan Campo, pam na all brofi unwaith eto fod ganddo’r dalent i ennill y Ballon d’or- ryw ddydd.
“Fe allai Gareth Bale ddatblygu i fod y chwaraewr gorau yn y byd,” meddai Campo.
“Mae’r potensial ganddo yn bendant ac mae wedi datblygu’n aruthrol ers ymuno â Real Madrid.
“Fe allai benderfynu’r ffeinal unwaith eto gyda’i dalent a’i sgil achos mae’n hoffi symud i ganol y cae fel Ronaldo.”
Cymru’n gwylio
Bydd gan garfan Cymru flaenoriaethau eraill wrth wylio’r gêm, ar y llaw arall, sef bod Bale yn dod drwyddi’n ddianaf er mwyn ymuno â nhw’r wythnos nesaf.
“Fe fyddai’n gwylio o du ôl i glustog mae’n siŵr, fel y bydd pawb arall yng Nghymru,” meddai’r amddiffynnwr James Collins, un o ffrindiau pennaf Bale yn y garfan.
“Fe fyddwn ni’n gwylio’r gêm fel tîm ond fe fydd ‘na ambell un nerfus. Nes i siarad efo Gaz ac mae e’n teimlo’n dda, yn edrych ‘mlaen at y gêm ac wedyn cwrdd lan ‘da ni wedyn.”
Ychwanegodd seren ganol cae Cymru Aaron Ramsey y byddai’n hwb mawr i Bale petai’n ymuno â charfan Cymru ar gyfer yr Ewros gyda medal enillwr yn ei boced.