Mae gwyddonwyr wedi dweud bod profion newydd wedi dangos y gallai planed sydd 1,200 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd fod â bywyd arni.
Mae Kepler 62f yn un o’r pum planed sydd yn cylchdroi o gwmpas seren gafodd ei ddarganfod gan delesgop Kepler nôl yn 2013.
Bellach mae tîm o Brifysgol California yn Los Angeles wedi rhedeg profion cyfrifiadurol maen nhw’n ei ddweud allai awgrymu fod y blaned yn medru cynnal bywyd.
“Fe wnaethon ni ganfod bod sawl ffurf atmosfferig wahanol allai ei chaniatáu i fod yn ddigon cynnes i gael dŵr hylif arni. Mae hyn yn golygu posibilrwydd cryf y gall fod bywyd arni,” meddai Dr Aomawa Shields, fu’n arwain yr ymchwil.
Mwy i’w gael
Mae Kepler 62f tua 40% yn fwy na’r Ddaear, ac mae’n bosib bod cefnforoedd ar ei harwyneb.
Yn ôl gwyddonwyr mae’r blaned tua 1,200 o flynyddoedd golau i ffwrdd, sydd yn golygu mai dyna’r amser mae’n ei gymryd i olau deithio o’r blaned honno atom ni ar y Ddaear.
Oherwydd y pellter sydd rhwng Kepler 62f a’r seren y mae hi’n ei chylchdroi, fe fyddai angen atmosffer â llawer o garbon deuocsid er mwyn atal unrhyw ddŵr oedd arni rhag rhewi.
Mae dros 2,300 o blanedau eraill wedi cael eu canfod y tu allan i’n system solar ni, ond dim ond dwsinau ohonynt sydd yn cylchdroi mewn pellter sydd ddim yn rhy bell na rhy agos i’w seren i ganiatáu dŵr hylif i fodoli yno.