Bryn Terfel
Bydd un o’r gwyliau celfyddydol mwyaf o’i fath yn cael ei lansio heno yng Nghaerdydd, fydd yn cynnwys perfformiadau gan Charlotte Church, Bryn Terfel, Gwenno Saunders a Van Morrison.
Mae Gŵyl y Llaisyn dechrau heno, gyda pherfformiad o ddrama National Theatre of Wales, Before I Leave, gan Patrick Jones a Matthew Dunster.
Ar 3 Mehefin, bydd John Cale a Gwenno Saunders yn perfformio gyda’i gilydd yn Neuadd Dewi Sant y brifddinas a bydd Bryn Terfel a Van Morrison yn rhannu llwyfan ar 7 Mehefin yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Bydd Bryn Terfel hefyd yn perfformio dwy gyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru, sy’n cynnal yr ŵyl, yn gobeithio y bydd yn trawsnewid Caerdydd i fod yn un o ganolfannau gwyliau celfyddydol mwyaf Ewrop.
Perfformiadau eraill
Mae disgwyl perfformiadau hefyd gan John Grant, Laura Mvula, Meilyr Jones, Georgia Ruth, Gwyneth Glyn a Scritti Politti, yn ogystal â chynyrchiadau gan Theatr Genedlaethol Cymru ac Opera Genedlaethol Cymru.
Bydd clwb nos pop-yp hefyd yn cael ei lansio yng Nghanolfan y Mileniwm, a fydd yn cynnwys perfformiadau byw a DJs.
Bydd 30 lleoliad ar gyfer yr ŵyl i gyd o amgylch y ddinas, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant, Sherman Cymru, canolfan Chapter, y Theatr Newydd a Tramshed.
Ymddiriedolaeth Colwinston, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd a rhoddion preifat sy’n ariannu’r prosiect anferth hwn.