Mae dau o bobol wedi cael eu saethu’n farw ac 11 o bobol wedi cael eu hanafu ar ôl i ddyn arfog saethu i ganol torf mewn cyngerdd awyr agored yn Awstria.

Ceisiodd nifer o bobol redeg i goedwig gyfagos neu i heol yn ardal Vorarlberg.

Mae lle i gredu bod y dyn wedi tanio’r dryll 40 o weithiau yn dilyn ffrae rhyngddo fe a dynes mewn maes parcio.

Saethodd y dyn ei hun yn farw yn y pen draw.

Roedd tua 150 o bobol wedi bod ar y safle.

Mae un o’r bobol a gafodd ei anafu mewn cyflwr difrifol, tra bod wyth o bobol eraill yn yr ysbyty o hyd.