Recep Tayyip Erdogan yn gyfaill i Binali Yildirim
Mae un o gynghreiriaid pennaf Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan wedi cael ei benodi’n brif weindiog y wlad.

Bydd Binali Yildirim, y Gweinidog Trafnidiaeth a Chyfathrebu presennol a sylfaenydd y Blaid Gyfiawnder a Datblygu, yn disodli Ahmet Davutoglu.

Daeth cadarnhad ddechrau’r mis fod Davutoglu yn rhoi’r gorau i’w waith yn sgil gwahaniaeth barn gydag Erdogan.

Cafodd Yildirim ei dderbyn yn ddi-wrthwynebydd fel ymgeisydd ac mae disgwyl iddo yntau ac Erdogan ddiwygio cyfansoddiad y wlad.

Y cam nesaf fydd gofyn i Yildirim ffurfio llywodraeth yn dilyn cyfarfod ffurfiol i’w benodi.

Talodd Yildirim deyrnged i Erdogan yn ei araith, gan ddweud ei fod yn “gyfaill”.

Mae Yildirim yn cael ei ganmol yn helaeth am drawsnewid economi’r wlad drwy is-adeiledd ond mae ei wrthwynebwyr wedi ei gyhuddo o lygredd.