Awyren EgyptAir
Mae llong danfor wedi dechrau chwilio am flwch du’r awyren Eifftaidd aeth ar goll yn ystod taith rhwng Paris a Cairo.
Cafodd 66 o bobol eu lladd.
Dywedodd arlywydd yr Aifft, Abdel-Fattah el-Sisi fod yr Aifft yn ymchwilio i’r digwyddiad ar y cyd â Ffrainc.
Mae modd i’r llong danfor fynd i ddyfnder o 3,000 metr islaw lefel y môr.
Fe allai gymryd cryn amser i ddarganfod beth oedd achos y digwyddiad, ac fe rybuddiodd y wasg rhag dyfalu beth oedd wedi digwydd.