Mae Andrew RT Davies wedi dweud bod y Ceidwadwyr Cymreig “wrth eu bodd” yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones na fyddai gwaharddiad ar e-sigarets yn cael ei gynnwys yn y Bil Iechyd Cyhoeddus.
Daeth cadarnhad gan Brif Weinidog Cymru, wrth iddo ymddangos ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales fore Sul.
Ceisiodd Llywodraeth Lafur Cymru basio’r ddeddfwriaeth ar ddiwrnod olaf tymor diwethaf y Cynulliad, ond fe gafodd ei wrthwynebu gan Blaid Cymru yn dilyn beirniadaeth Leighton Andrews o Leanne Wood.
Ar y pryd, dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas y byddai’r Llywodraeth Lafur yn difaru’r sylwadau bod Leanne Wood yn “cheap date”.
‘Cam enfawr yn ôl’
Dywedodd Andrew RT Davies mewn datganiad y byddai gwaharddiad wedi bod yn “gam enfawr yn ôl” ac y byddai’n niweidio iechyd y cyhoedd.
“Ar ôl blynyddoedd o bwyso gan y Ceidwadwyr Cymreig, rwy wrth fy modd fod Llafur wedi cael eu gorfodi i gyfaddef na fyddan nhw’n dilyn y polisi camsyniol hwn.
“Rhaid pendroni a yw newid personel diweddar gan y Prif Weinidog yn y portffolio iechyd yn gysylltiedig â gwrthwynebiad mewnol i’r tro pedol yn y polisi hwn.”
Yn y Cynulliad newydd, mae unig Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams wedi cael ei phenodi’n Ysgrifennydd Addysg.
Cafodd Williams ei phenodi i’r Cabinet yn sgil trafodaethau ynghylch swydd y Prif Weinidog ar ôl i Carwyn Jones gael ei herio gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Ychwanegodd Andrew RT Davies: “Mae’r ffaith fod y gwaharddiad ddim ond wedi cael ei roi o’r neilltu oherwydd fod gan Lafur ddiffyg cefnogaeth i symud y cynllun yn ei flaen yn dweud y cyfan sydd angen i chi ei wybod am eu hathronyddiaeth ‘Gwladwriaeth Faldodi’.”