Mae’r ddynes a gafodd ei lladd ar ôl cael ei tharo gan fws yng Nghaerdydd ddydd Mawrth wedi cael ei henwi.

Cafodd Joan Davies, 83, ei chludo i Ysbyty Athrofaol y brifddinas yn dilyn y gwrthdrawiad y tu allan i westy’r Hilton am 11.15yb.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth, ac mae ei theulu wedi talu teyrnged iddi.

Mewn datganiad, dywedodd ei theulu ei bod yn fam, yn fam-gu ac yn hen fam-gu.

Yn enedigol o Gasnewydd, bu hi a’i gŵr Glyn yn byw yn Nyfnaint cyn dychwelyd i’r ardal.

“Roedd hi’n ddynes eithriadol o annibynnol ac egnïol oedd yn hoff o gerdded ac anifeiliaid.

“Roedd hi’n aml yn ymweld â’i hoff lefydd lle byddai hi’n cael ei gweld yn cerdded, yn bwydo’r hwyaid ac yn mwynhau’r heulwen.”

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.