Daeth cadarnhad fod arweinydd y Taliban Mullah Akhtar Mansour wedi cael ei ladd yn ystod ymosodiad gan ddrôn yn Afghanistan nos Wener.

Dywedodd llefarydd fod Mansour wedi’i ladd ar y ffin rhwng Afghanistan a Phacistan, lle cafodd ei gerbyd ei dargedu.

Daeth Mansour yn arweinydd y Taliban haf diwethaf yn dilyn marwolaeth sylfaenydd y mudiad, Mullah Mohammad Omar, a fu farw ddwy flynedd yn ôl.

Mae lle i gredu y gallai marwolaeth Mansour ddod â heddwch i Afghanistan, lle bu’r Taliban yn ymladd ers 15 mlynedd, gan ei fod wedi bod yn gwrthwynebu’r trafodaethau heddwch yn y wlad.