Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill, wedi i wraig gael ei chanfod yn farw mewn tre’ dawel a chefnog yn ne Lloegr.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff y ddynes yn ei 30au yn Weybridge, Surrey, fore Sadwrn. Fe gafwyd dyn, hefyd yn ei 30au, wedi ei anafu’n ddifrifol yn yr un cyfeiriad, ac mae’n derbyn triniaeth ysbyty ar hyn o bryd, meddai Heddlu Surrey.

“Mae’n ddyddiau cynnar o ran y digwyddiad trasig hwn,” meddai llefarydd ar ran y llu, “ond rydan ni’n credu mai un digwyddiad sydd gennym yno, ac nad oes bygythiad i’r gymuned leol.”

Fe gafodd yr heddlu eu galw toc wedi 10yb heddiw, ar ol cael eu galw gan griw ambiwlans.