Mae un o arweinwyr Hezbollah wedi’i ladd mewn ymosodiad gan wrthryfelwyr yn Syria… ac mae’r grwp milwriaethus nawr yn addo parhau â’i ran yn rhyfel cartre’r wlad.
Mustafa Badreddine yw’r swyddog amlyca’ o blith Hezbollah i gael ei ladd ers i’r rhyfel yn Syria ddechrau bedair blynedd yn ol. Mae datganiad gan Hezbollah yn cadarnhau iddo gael ei ladd ger Maes Awyr Rhyngwladol Damascus, wedi i daflegrau gan grwpiau eithafwyr Sunni, daro’r ardal.
Mae’r ardal honno i’r de o brifddinas Syria yn cael ei hadnabod fel cadarnle rhai o’r grwpiau gwrthryfelgar sy’n rhan o Ffrynt Nusra.
Mae datganiad Hezbollah hefyd yn awgrymu y bydd y grwp yn parhau i fod yn rhan ganolog o’r rhyfel sydd bellach wedi lladd 250,000 o bobol ers 2011 – ac mae’r ffigwr hwnnw’n cynnwys 1,000 o ymladdwyr Hezbollah.