Mae dyn 28 oed wedi cael ei arestio gan dditectifs sy’n ymchwilio i ymosodiad ar fws tim Manchester United cyn eu gêm Uwch Gynghrair yn erbyn West Ham yn gynharach yr wythnos hon.
Roedd y dyn wedi cerdded i mewn i orsaf heddlu yn Llundain a’i ildio’i hun i’r heddlu, cyn iddo gael ei arestio ar amheuaeth o achosi anhrefn treisgar. Mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tan ganol Awst, tra bod ymchwiliad yn mynd rhagddo.
Fe gafodd poteli a phethau eraill eu taflu at y bws nos Fawrth (Mai 10) wrth iddo wneud ei ffordd i faes Boleyn, ac fe fu’n rhaid gohirio dechrau’r gêm am dri chwarter awr.
Mae lluniau fideo sydd wedi’u cyhoeddi ar-lein yn dangos chwaraewyr amlwg Man U, Jesse Lingard a Michael Carrick yn eu plith, yn cuddio mewn ofn, wrth i bob math o eitemau daro ffenestri’r bws.
Mae’r heddlu hefyd wedi arestio tri dyn arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad. Mae dau ddyn, 18 a 47, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tan ddiwedd y mis hwn, ac mae dyn 20 oed a gafodd ei arestio am daflu poteli at yr heddlu, wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tan fis Awst.