Joe Ledley
Mae rheolwr Crystal Palace Alan Pardew wedi cyfaddef mai cael a chael fydd hi ar Joe Ledley i wella o’i anaf mewn pryd ar gyfer Ewro 2016.

Wythnos yma fe gadarnhaodd y clwb fod y chwaraewr canol cae wedi cracio asgwrn yn ei goes, ac fe fydd yn methu ffeinal Cwpan FA Lloegr yr wythnos nesaf wrth i Palace herio Man U.

Mae’r newyddion yn ergyd hefyd i Chris Coleman, ar ôl i reolwr Cymru enwi’r chwaraewr 29 oed yng ngharfan ymarfer y tîm cenedlaethol ar gyfer y gystadleuaeth.

Dim ond pedair wythnos sydd i fynd nes gêm agoriadol y twrnament yn Ffrainc, ac mae gan Gymru hyd nes 31 Mai i gadarnhau eu carfan derfynol o 23.

‘Gwneud popeth y gallwn ni’

Dywedodd Alan Pardew fod Palace yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod Ledley’n gwella mewn pryd i ymuno â’r tîm cenedlaethol ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf mewn rowndiau terfynol cystadleuaeth ryngwladol ers 58 mlynedd.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n 50/50 [i gyrraedd Ewro 2016], mae hi mor dynn â hynny,” meddai rheolwr Palace.

“Dw i’n siŵr y bydd Chris Coleman ar bigau’r drain eisiau ei gael e, felly rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni i’w helpu. Mae gennym ni siambrau ocsigen a phob math o bethau er mwyn ceisio’i helpu i wella o’r anaf.

“Roedd e’n siomedig iawn pan glywodd e’n newyddion ond mae’n gymeriad cryf a nawr mae e jyst yn benderfynol o gyrraedd yr Ewros, felly mae ganddo feddylfryd da unwaith eto.”