Fort McMurray cyn y tan (Cyngor Wood Buffalo CCA2.5)
Mae llywodraeth talaith Alberta yn Canada wedi cyhoeddi argyfwng wrth i griwiau tân frwydro yn erbyn tanau gwyllt sydd wedi dinistrio 1,600 o gartrefi ac adeiladau eraill yn ninas olew Fort McMurray.
Mae mwy na 80,000 o bobol wedi cael eu gorchymyn i ffoi o’r ddinas ond hyd yn hyn does dim adroddiadau o anafiadau neu farwolaethau yn gysylltiedig â’r tân.
Mae’r fflamau, sydd wedi lledaenu oherwydd gwynt cryf, yn cael eu cadw draw o ganol y ddinas trwy ymdrechion “aruthrol” diffoddwyr tân, yn ôl swyddog o Asiantaeth Rheoli Argyfyngau Alberta.
Hanes y tân
Fe gynheuodd y tân ger y maes awyr yn hwyr ddydd Mercher ble’r oedd ddiffoddwyr tân ar y safle. Mae’r holl deithiau masnachol i mewn ac allan o Fort McMurray wedi cael eu gwahardd.
Mae tywydd poeth diweddar yn ogystal ag amodau sych yn golygu bod coedwigoedd Alberta yn sych fel y carthen. Mae Fort McMurray wedi ei amgylchynu gan anialwch yng nghanol tywod olew Canada – y trydydd cronfa olew wrth gefn mwyaf yn y byd y tu ôl i Saudi Arabia a Venezuela.
Mae mwy na 250 o ddiffoddwyr tân yn brwydro’r tân ac yn gweithio i amddiffyn adnoddau hanfodol – gan gynnwys yr unig bont ar draws yr Afon Athabasca a’r unig brif ffordd i mewn ac allan o’r ddinas.
Dywedodd Prif Weinidog Canada Justin Trudeau bod y Llywodraeth wedi cynnig ei gefnogaeth llawn i’r dalaith ac anogodd dinasyddion y wlad i roi arian i’r Groes Goch er mwyn helpu’r rhai sydd wedi eu heffeithio.