Un o siopau Bhs (Mtaylor848 CCA4.0)
Mae cyn berchennog siopau Bhs, Syr Philip Green, wedi galw am ymddiswyddiad yr AS sy’n arwain yr ymchwiliad seneddol i gwymp y cwmni, gan honni ei fod yn “rhagfarnllyd”.

Roedd y dyn busnes yn siarad yn gyhoeddus am y tro cynta’ am y cwmni y bu’n berchen arno rhwng 2000 a 2015.

Fe ddywedodd ei fod eisiau defnyddio ymddangosiad o falen pwyllgor o aelodau seneddol er mwyn cywiro adroddiadau camarweiniol am ei ymddygiad pan oedd wrth y llyw.

Gwnaeth ei sylwadau ar ôl i Frank Field AS, Cadeirydd y Pwyllgor Dethol dros Waith a Phensiynau, awgrymu y gallai teitl Philip Green fod yn y fantol petai’r pwyllgor yn penderfynu ei fod wedi camymddwyn.

Galwodd Philip Green y sylwadau’n ddychrynllyd a beirniadodd Frank Field am fethu â deall cyllid BHS.

Galwodd am i’r gwrandawiad seneddol fod yn un teg.

Cefndir

Mae Philip Green wedi cael ei feirniadu wedi i’r cwmni fynd i’r wal wythnos diwethaf, flwyddyn ar ôl iddo ei werthu am  £1, gan roi 11,000 o swyddi yn y fantol a gadael bwlch o £571 miliwn yn y gronfa bensiwn.

Bydd y Pwyllgor Dethol dros Waith a Phensiynau yn holi’r biliwnydd am daliad difidend o £400 miliwn yr oedd wedi ei wneud i’w deulu a thros yr hyn a wnaeth wrth reoli’r cynllun pensiwn.