Mae goruchaf arweinydd Iran wedi beirniadu America am ei phresenoldeb yng Ngwlff Persia, gan ddweud y dylai lluoedd yr Unol Daleithiau “ddychwelyd i Fae’r Moch”.
Mae gwefan Ayatollah Ali Khamenei yn dyfynnu’r arweinydd yn dweud wrth grwp o athrawon fod drilio milwrol gan America yn y rhanbarth yn brawf o ddirmyg yr Unol Daleithiau.
“Rydych chi’n dod o ben arall y byd i fan hyn,” meddai. “Ewch yn eich holau i Fae’r Moch… beth ydach chi’n wneud yn fan hyn?”
Mae sylwadau Ayatollah Khamenei yn cyfeirio at fethiant ymosodiad ar Ynys Ciwba yn 1961. Ond mae Mwslimiaid hefyd yn ystyried moch yn anifeiliaid aflan, gan fod llyfr sanctaidd y Koran yn gwahardd dilynwyr Islam rhag bwyta porc.
Barn yr Ayatollah Khamenei ydi’r gair ola’ ar holl faterion gwladwriaethol Iran.