Mae dol fechan o’r ymgeisydd arlywyddol, Donald Trump, wedi’i chludo o gwmpas Los Angeles, wrth i orymdeithwyr lenwi’r strydoedd ar Wyl Fai.
Mae’r protestwyr yn galw am fwy o hawiau i weithwyr a mewnfudwyr, yn wyneb yr hyn y maen nhw’n ei alw’n “rhethreg etholiadol llawn casineb” gan y Gweriniaethwr.
Dim ond un o blith nifer o ddigwyddiadau ledled yr Unol Daleithiau ydi hwn yn galw am gyflogau teg i weithwyr, ac am weld diwedd i anfon mewnfudwyr yn ôl gartref.
Mae’r gorymdeithwyr wedi galw ar i Donald Trump dynnu’n ôl rai o’r sylwadau y mae wedi’u gwneud am fewnfudwyr, gweithwyr a merched. Mae hefyd wedi cyhuddo ei brif wrthwynebydd o blaid y Democratiaid, Hillary Clinton, o chwarae ar y ffaith ei bod hi’n fenyw fel rhan o’i hymgyrch.
Oddi ar 2006, mae gorymdeithiau Gwyl Fai wedi dod yn bethau poblogaidd yn yr Unol Daleithiau, yn enwedig i fewnfudwyr a’u cefnogwyr.