Istanbu;
Mae’r awdurdodau yn Twrci wedi arestio chwech o bobol ar amheuaeth o fod yn wrthryfelwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) a oedd yn ceisio trefnu ymosodiadau terfysgol honedig ar ddinas Konya.

Fe gafodd y chwech eu dwyn i’r ddalfa yn Konya ddydd Gwener.

Mae Twrci wedi’i hysgwyd yn ddiweddar gan chwech o ymosodiadau gan hunanfomwyr ers Gorffennaf – a phedwar o’r ymosodiadau hynny’n cael eu beio ar IS.

Yn fwy diweddar, fe laddwyd pedwar o dwristiaid ar y stryd yn Istanbul gan hunanfomiwr ar Fawrth 19.