Mae o leiaf 28 o bobl wedi’u lladd a mwy na 320 wedi’u hanafu yn dilyn ymosodiad gan filwriaethwyr arfog ar asiantaeth ddiogelwch llywodraeth Afghanistan yn y brifddinas Kabul.

Mae’n ymddangos bod yr ymosodiad wedi targedu asiantaeth sy’n darparu diogelwch personol i uwch-swyddogion y llywodraeth.

Dywedodd gweinidog y llywodraeth, Sediq Sediqqi, bod hunan-fomiwr wedi ffrwydro bom car a bod milwriaethwyr arfog wedi ymosod ar ôl hynny.

Mae lluoedd y llywodraeth wedi amgylchynu’r ardal a llu o ambiwlansys wedi cyrraedd y safle.

Cafodd y rhai sydd wedi eu hanafu, gan gynnwys merched a phlant, eu cludo i ysbytai lleol.

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ac yn dweud bod eu hymladdwyr yn parhau i frwydro gyda lluoedd diogelwch ar y safle.