Timau achub yn chwilio drwy'r rwbel
Mae’n ras yn erbyn amser i achubwyr yn Ecwador wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i fwy o bobol sy’n fyw o dan y rwbel yno.
Bellach, mae llywodraeth y wlad wedi cadarnhau bod nifer y meirw wedi codi i 413 o bobol wedi i’r ddaeargryn fwyaf grymus mewn degawdau daro’r wlad nos Sadwrn.
Mae disgwyl i’r ffigwr hwnnw godi ymhellach yn y dyddiau nesaf, gyda phennaeth gwasanaethau brys prifddinas Quito, Christian Rivera, yn dweud y gall person sydd heb anafiadau difrifol oroesi am hyd at wythnos mewn amodau o’r fath.
‘Ddim wedi stopio gweithio’
Rhai o’r ardaloedd pennaf sydd wedi’u heffeithio gan y ddaeargryn, oedd yn mesur 7.8 ar raddfa Richter, yw dinasoedd Manta, Portoviejo a Guayaquil.
Mae tua 450 o achubwyr o Sbaen, Periw, Ciwba, Bolifia, Venezuela a rhannau eraill yn gweithio yn yr ardaloedd hyn.
Yn ninas Manta, llwyddodd grŵp o tua 50 o achubwyr i ryddhau wyth o bobol oedd wedi’u dal o dan rwbel mewn canolfan siopa am fwy na 32 awr.
Ond, mae diffyg cyflenwad trydan yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw, am fod y generaduron yn golygu ei bod hi’n anodd clywed unrhyw un a allai fod yn fyw o dan y rwbel.
Yn ôl Juan Carranza, un o’r gweithwyr achub yn Portoviejo: “Ers dydd Sadwrn, pan ddechreuodd y wlad grynu, dw i wedi cysgu am ddwy awr a dw i ddim wedi stopio gweithio.”
Ailadeiladu
Mae’r Unol Daleithiau hefyd wedi cynnig cymorth i Ecwador, ond dyw’r Arlywydd Rafael Correa ddim wedi ymateb yn gyhoeddus i hynny eto.
Galwodd yr Arlywydd ar bobol Ecwador i barhau’n gadarn drwy broses o ailadeiladu a fydd yn “debygol o fod yn hir,” wrth gofio am y dirwasgiad sy’n wynebu’r wlad.
Er hyn, fe lwyddodd Chile i ailadeiladu’n gymharol gyflym ar ôl daeargryn 2010, am iddyn nhw brofi ffyniant economaidd yn eu nwyddau.
Fe fydd Ecwador yn ystyried benthyg tua £420 miliwn mewn credyd gan Fanc y Byd, Banc Datblygu Canol America a benthycwyr eraill.
Yn y cyfamser, yn ôl y Groes Goch yn Sbaen, gallai fod angen cymorth ar gymaint â 100,000 o bobol ynghyd â lloches dros dro i tua 5,000 o bobol sydd wedi colli eu cartrefi.