Harry Greaves sydd ar goll ym Mheriw
Mae elusen sy’n ceisio dod o hyd i Gymro sydd wedi bod ar goll ym Mheriw ers mwy nag wythnos wedi dweud ei fod “wedi’i weld gan un o’r trigolion lleol.”
Mae Harry Greaves, sy’n wreiddiol o’r Waun ger Wrecsam ac wedi’i fagu yng Nghroesoswallt, wedi bod yn teithio De America.
Aeth i Beriw ar Chwefror 20 er mwyn ymweld â ffrindiau yn Pisac, ger Cuzco.
Doedd neb wedi’i weld ers Ebrill 7, pan ddywedodd wrth ffrindiau ei fod yn mynd i ddringo mynydd ar ei ben ei hun.
Roedden nhw’n ei ddisgwyl yn ôl ymhen tridiau, ar 10 Ebrill, diwrnod ar ôl ei ben-blwydd yn 29 oed.
Ond, yn ôl llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Lucie Blackman: “Dros nos, rydym yn credu fod yna berson lleol wedi gweld Harry yn fwy diweddar na’r tro diwethaf iddo gael ei weld – roedd yn teithio i gyfeiriad Pisac.
“Dyna ble mae ffocws yr ymdrechion chwilio yn awr.”
‘Dyrnaid bychan’
Yn ôl teulu Harry Greaves, mae’n “anarferol iddo fod allan o gysylltiad,” ac maen nhw’n pryderu am ei les.
Mae’r elusen wedi bod yn cynorthwyo’r teulu drwy chwilio amdano ar dir a gyda hofrennydd.
Fe fydd cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Lucie Blackman yn cyfarfod â’r teulu heddiw i drafod y posibilrwydd o ddefnyddio awyrennau di-beilot i geisio dod o hyd iddo.
Yn y cyfamser, mae tudalen i godi arian ar-lein wedi codi bron £21,000 at yr achos.
Mae negeseuon ar y dudalen honno’n dweud fod Harry Greaves yn gymeriad “hyfryd” a “gofalus”.
Ond, mae’r dudalen hefyd yn pwysleisio mai dim ond “dyrnaid bychan o achubwyr” sy’n gweithio yn yr ardal ac nad ydynt wedi derbyn “dim cefnogaeth go iawn gan unrhyw sefydliad o’r llywodraeth, y Llysgenhadaeth Brydeinig, y Swyddfa Dramor, lluoedd yr heddlu na Bwrdeistref Periw.”